George Thomas
George Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1909 Port Talbot, Cymru |
Bu farw | 22 Medi 1997 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Chairman of Ways and Means, Minister of State for Commonwealth Affairs, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Cartref, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwleidydd Llafur oedd Thomas George Thomas, Is-iarll Tonypandy (29 Ionawr 1909 – 22 Medi 1997); bu'n Aelod Seneddol rhwng 1945 a 1983, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 Ebrill 1966 – 5 Ebrill 1968) ac yn Llefarydd y Tŷ'r Cyffredin (3 Chwefror 1976 – 10 Mehefin 1983). Ef, yn anad neb arall, a groesawodd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969; roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn drwy drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.
Fel is-Weinidog yng Nghabined Harold Wilson ef oedd un o'r cyntaf i gyrraedd Trychineb Aberfan yn 1966. Daeth i sylw'r cyhoedd pan ddechreuwyd darlledu trafodaethau'r Tŷ'r Cyffredin ag yntau'n Llefarydd.
Y person
[golygu | golygu cod]Ganed Thomas ym Mhort Talbot a gweithiodd fel athro yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Roedd yn fab i löwr, Zachariah Thomas, a siaradai Gymraeg, ac a oedd o Gaerfyrddin ac Emma Jane Tilbury, merch un o sefydlwyr achos Methodistiaeth Saesneg yn Nhonypandy. Roedd hi'n hanu o Lanfield, Hampshire. Bu'n aelod o'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes a phregethodd yn eu capeli.
Roedd ei dad yn feddwyn a adawodd ei wraig, gan ei gadael i fagu pump o blant ar ei phen ei hun. Magwyd George Thomas gan ei fam ym mhentref Trealaw yn groes i'r afon o dref Tonypandy. Mynychodd Ysgol Ramadeg Tonypandy, 1920-27. Bu'n athro heb drwydded yn Dagenham cyn dilyn cwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Southampton rhwng 1929 a 1931.
Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1924 a thraddododd ei araith wleidyddol gyntaf pan oedd yn ddeunaw oed i 'Gynghrair Cydweithredol Merched Tonypandy'.
Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1983 ond yn 2014–15 cafwyd nifer o gyhuddiadau ei fod wedi bocha gyda phlant mewn modd rhywiol.[1] Datgelodd cydaelod Seneddol Leo Abse yn ei lyfr Tony Blair: The Man Behind the Smile ychydig wedi i George Thomas ymddeol o wleidyddiaeth ei fod yn hoyw a'i fod wedi talu nifer o bobl i fod yn dawel am y wybodaeth yma, rhag ei wneud yn gyhoeddus.[2]
Honiadau o gam-drin rhywiol
[golygu | golygu cod]Ym mis Gorffennaf 2014, fe adroddodd papurau newydd bod Heddlu De Cymru yn archwilio honiadau bod Thomas wedi cam-drin bachgen 9 oed yn rhywiol yn y 1960au hwyr.[3][4]. Yn mis Mawrth 2015 fe cadarnhawyd Heddlu De Cymru eu bod nhw yn archwilio camdriniaeth rhywiol honedig.[5] Daeth yr archwiliad i ben ym mis Mawrth 2017 heb unrhyw weithred pellach.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
- ↑ Abse, Leo (2001). Tony Blair: The Man Behind the Smile. Robson Books. ISBN 1-86105-364-9.
- ↑ https://www.theguardian.com/politics/2014/jul/19/police-investigate-sex-abuse-claims-labour-peer-viscount-tonypandy
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/police-launch-investigation-historic-sex-7458231
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-32009589
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/39279576
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Ernest Bennett |
Aelod Seneddol dros Caerdydd Canolog 1945 – 1950 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd 1950 – 1983 |
Olynydd: Stefan Terlezki |
Rhagflaenydd: Selwyn Lloyd |
Llefarydd y Tŷ Chwefror 1976 – 10 Mehefin 1983 |
Olynydd: Bernard Weatherill |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Cledwyn Hughes |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 5 Ebrill 1968 – 20 Mehefin 1970 |
Olynydd: Peter Thomas |